Croeso i Arwain؛ ap rhad ac am ddim wedi’i greu ar gyfer myfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sy’n siarad neu dysgu Cymraeg.
Mae’r ap yn cynnwys gwybodaeth am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg، y gefnogaeth ariannol sydd ar gael tra bo ti’n astudio yma، ynghyd â'r cyfleoedd i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg yn Abertawe.
Dyma’r hyn sydd yn yr ap:
· Rhestr o fodiwlau sy’n cael eu dysgu trwy’r Gymraeg yn dy faes pwnc
· Disgrifiad o’r gefnogaeth academaidd sydd ar gael i ti a gwybodaeth am ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol
· Gwybodaeth am fywyd cymdeithasol cyfrwng Cymraeg Abertawe - llety cyfrwng Cymraeg y Brifysgol، yr Undeb Myfyrwyr a’r GymGym a chalendr o ddigwyddiadau
· Gwybodaeth am ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
· Gwybodaeth am gyfleoedd i ddysgu neu loywi dy Gymraeg
· Gwybodaeth am Academi Hywel Teifi - canolfan sy’n hybu addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y pynciau ym Mhrifysgol Abertawe
· Gwybodaeth am Gangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Prifysgol Abertawe a’i chynlluniau cefnogi
تاريخ التحديث
09/09/2020