Pan mae dy glustiau'n mynnu mynd 'fflop', dy gamau heb sbonc a dy naid yn ddi-hop, dy holl amynedd wedi hen, hen fynd, beth wyt ti ei angen? Rwyt ti angen...ffrind.Drwy'r dyddiau da a drwg, hapus a thrist, wrth ein hochr mae rhai sy'n chwerthin gyda ni, yn wylo gyda ni, yn rhoi help a rhoi cwtsh. Pobl ry'n ni'n eu trysori - pobl sy'n ffrindiau triw. Dewch i ddathlu'r bobl sy'n bwysig i chi yn y llyfr bach hwn o gyfeillgarwch - yna'i roi i rywun arbennig.